Mater - cyfarfodydd

Amendments to Clwyd Pension Fund Constitution

Cyfarfod: 29/09/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 10)

10 Diwygiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 109 KB

I adolygu a diweddaru'r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiwn Clwyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir am Gronfa Bensiynau Clwyd.  Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i:

 

  • adlewyrchu’r cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yw’r uwch

swyddog â chyfrifoldeb am gyflawni’r Gronfa Bensiynau’n weithredol, yn hytrach na’r Prif Weithredwr; a 

  • sicrhau bod y Cyfansoddiad yn adlewyrchu statws rheoli cronfa bensiynau

fel swyddogaeth anweithredol yn llawn.

 

Roedd newidiadau achlysurol eraill wedi'u cynnwys yn yr Atodiad i'r adroddiad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bryder ynghylch y cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd fyddai’r uwch swyddog â chyfrifoldeb am gyflawni’r Gronfa Bensiynau’n weithredol, yn lle’r Prif Weithredwr, oherwydd ei fod yn credu bod hyn yn dirprwyo awdurdod i lefel is.  Mewn ymateb eglurodd y Prif Swyddog fod y Cyfansoddiad yn disgrifio pwy oedd â'r cyfrifoldebau a chan gyfeirio at dudalen 20 o'r adroddiad fel enghraifft, dywedodd fod y Cyfansoddiad hefyd yn amlinellu pwy fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau hynny.  Bwriad y cynnig oedd rhoi mwy o eglurhad ynghylch cyfrifoldeb gweithredol.

 

Mewn ymateb i bryder arall a gododd y Cynghorydd Ibbotson, dywedodd y Prif Swyddog fod y Prif Weithredwr yn cadw'r cyfrifoldeb cyffredinol gan ei fod yn Uwch Swyddog y Cyngor.  Nid oedd dirprwyo i swyddogion wedi atal y Prif Weithredwr rhag gwrthod penderfyniadau pe bai angen gwneud hynny gan eithrio pan oedd gan swyddog swydd statudol a chyfrifoldebau penodol.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog hefyd i'r cwestiwn a gododd y Cynghorydd Steve Copple ynghylch llwyth gwaith a chapasiti ac eglurodd fod Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd eisoes yn cyflawni'r swyddogaethau perthnasol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Antony Wren a'r Cynghorydd Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell y newidiadau a amlinellwyd yn yr Atodiad i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i’r Cyngor.