Mater - cyfarfodydd
An Introduction to the North Wales Economic Ambition Board & Quarterly report
Cyfarfod: 11/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 20)
20 Cyflwyniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Adroddiad Chwarterol PDF 88 KB
Pwrpas: Cyflwyniad i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a diweddariad chwarterol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for An Introduction to the North Wales Economic Ambition Board & Quarterly report, eitem 20 PDF 6 MB
- Enc. 2 for An Introduction to the North Wales Economic Ambition Board & Quarterly report, eitem 20 PDF 146 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyflwyniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Adroddiad Chwarterol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Rhoddodd Hedd Vaughan Evans, David Matthews a Henry Aron, Uchelgais Gogledd Cymru, gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Dwf Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
- Bargen Dwf Gogledd Cymru - Ch1 a diweddariad diwedd blwyddyn
- Ein gweledigaeth
- Egwyddorion
- Amcanion
- Buddsoddiad
- Ein strwythur
- Cyflawniadau 2021-2022
- 5 Rhaglen:
o Bwyd Amaeth a Thwristiaeth
o Cysylltedd Digidol
o Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel
o Ynni Carbon Isel
o Tir ac Eiddo
Croesawodd y Cynghorydd David Healey y prosiect a siaradodd o blaid y buddion y gellid eu cyflawni drwy greu cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau ac amodau carbon niwtral.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y dyhead ar dudalen 36 yr adroddiad, sef bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i ddod yn arweinydd byd-eang a gofynnodd a oedd y cynllun llanw yn cael ei gyflawni ac os oedd prosiectau eraill ar y gweill, gan nodi ffermydd gwynt a solar fel enghreifftiau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y datblygiad lleol ar dir maes glas ym Manor Lane, Brychdyn, a oedd wedi’i leoli ger Airbus ac yn agos at Barth Menter Glannau Dyfrdwy a gofynnodd pa fath o waith fyddai’n cael ei greu ar y safle.
Mewn ymateb i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, cyfeiriodd Henry Aron at y gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Ynni Rhanbarthol Gogledd Cymru a oedd yn rhoi golwg gyfannol ar dechnolegau a mathau eraill o ynni a fyddai angen eu datblygu ar draws Gogledd Cymru. Rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd y prosiect llanw hefyd. Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad lleol yn ymwneud â safle Warren Hall.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y CynghorwyrDan Rose a Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.