Mater - cyfarfodydd
Polisi Torri Glaswellt
Cyfarfod: 07/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 65)
65 Polisi Torri Glaswellt PDF 123 KB
Cynghori Craffu am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Grass Cutting Policy, eitem 65 PDF 251 KB
- Appendix 2 - Grass Cutting Policy, eitem 65 PDF 83 KB
- Appendix 3 - Grass Cutting Policy, eitem 65 PDF 18 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Torri Glaswellt
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau, a gynhaliwyd ar y cyd ym mis Ionawr 2023 gan bortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant a phortffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd mai diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma gan y ddau bortffolio, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol. Yn ogystal, yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth gweithredol torri glaswellt yn ystod 2022.
Adroddodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd a Goruchwyliwr Gwasanaethau Stryd ar y cyd am y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i thîm gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y gwelliannau cyffredinol yn y gwasanaeth torri glaswellt. Gwnaeth sylwadau hefyd ar rai o’r pryderon eraill a oedd ganddo yngl?n â gerddi tenantiaid a chyfeiriodd at dorri glaswellt mewn ardaloedd bychain yn perthyn i dai gwarchod fel enghraifft.
Wrth ymateb i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â chynnal a chadw ardaloedd wrth ymyl garejis, eglurodd y Prif Swyddog fod cynnal a chadw ardaloedd garejis sy’n perthyn i dai cymdeithasol yn dod o fewn cylch gwaith y Gwasanaeth Tai.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a’r cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli’r lleiniau ar ymyl ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder; a
(b) Chefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.