Mater - cyfarfodydd
Outcome of Statutory Training Audit
Cyfarfod: 11/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 21)
21 Canlyniad yr Archwiliad Hyfforddiant Statudol PDF 117 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i Craffu am ganlyniad yr archwiliad mewnol hyfforddiant statudol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau y cytunwyd arnynt.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Outcome of Statutory Training Audit, eitem 21 PDF 513 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Canlyniad yr Archwiliad Hyfforddiant Statudol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi gwybod i Craffu am ganlyniad yr archwiliad mewnol hyfforddiant statudol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau y cytunwyd arnynt. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio a’r Rheolwr Cydymffurfedd a Hyfforddiant i roi cyflwyniad ar y cyd a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:
- gofynion hyfforddiant statudol
- Trosolwg o’r Tîm Cydymffurfedd a Hyfforddiant
- Cyfleuster Hyfforddiant y Cyngor
- Archwiliad Hyfforddiant Statudol
- Archwiliad Hyfforddiant Statudol - canlyniad
- y camau a gytunwyd arnynt a diweddariadau
Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.05 yn yr adroddiad a’r 2,400 o ddigwyddiadau hyfforddiant a gofynnodd am eglurder yngl?n â beth yn union oedd yn cael ei ystyried yn ‘ddigwyddiad’. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio esboniad a dywedodd y byddai un person yn mynychu un cwrs yn cyfrif fel digwyddiad hyfforddi.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y camau allweddol a oedd wedi cael eu cytuno a gofynnodd a fyddai’r dangosydd perfformiad yn symud o oren-coch i wyrdd o ganlyniad, neu a oedd angen ail archwilio i gadarnhau’r camau gweithredu. Gofynnodd gwestiynau hefyd yngl?n â sut oedd gweithwyr cerbydau gwastraff yn cael eu hyfforddi. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at dudalen 97 yn yr adroddiad a gofynnodd gwestiynau pellach yngl?n â’r dyddiad cwblhau ar gyfer newid fflyd yr awdurdod i gerbydau trydan a thanwydd amgen (hydrogen ac ati), a cheisiodd eglurder ar y dasg ‘Datblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Sir’. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd a gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â’r cyfleuster hyfforddiant os oeddent yn dymuno gwneud hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Hodge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi gwaith Tîm Cydymffurfedd a Hyfforddiant y Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a
(b) Chefnogi’r camau gweithredu a gymerwyd a’r rheolyddion a roddwyd ar waith mewn ymateb i argymhellion archwilio mewnol.