Mater - cyfarfodydd
Elective Home Education
Cyfarfod: 01/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 38)
38 Addysg Ddewisol yn y Cartref PDF 94 KB
Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a goruchwyliaeth y Cyngor o’r dysgwyr hyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y plant a oedd yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref. Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr oedrannau a’r niferoedd ar gyfer Sir y Fflint, a oedd yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru ar hyn o bryd, a darparwyd amlinelliad o ganran y disgyblion a oedd yn derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a phryd roedd hyn yn digwydd, nodwyd bod blwyddyn 7 yn flwyddyn dyngedfennol ar gyfer hyn wrth i blant symud i’r ysgol uwchradd.
Nododd yr Uwch Reolwr nad oedd rhaid i rieni geisio cymeradwyaeth na rhoi gwybod i’r Awdurdod eu bod yn dewis addysgu eu plentyn gartref. Roedd prosesau ar waith er mwyn gallu gofyn cwestiynau i rieni a darparu cyngor a chymorth iddynt ac amlinellodd rhai o’r rhesymau a roddwyd gan rieni. Nid oedd yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu cefnogaeth ariannol i rieni, ond roedd cyllid grant ar gael i helpu gyda hyn a gwaith yn mynd rhagddo gyda theuluoedd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r adnodd. Roedd yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i fonitro’r teuluoedd, a phe bai unrhyw bryderon yn codi, gallai’r Awdurdod gyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol ac enwebu ysgol i’r plentyn ei mynychu. Nid oedd unrhyw orchmynion wedi’u cyflwyno yn y flwyddyn ddiwethaf. Darparwyd gwybodaeth ar rôl monitro’r gwasanaeth a phenodiad y Swyddog Cefnogi Addysg a oedd yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Lles Addysg mewn perthynas â chodi pryderon. Roedd y Swyddog Cefnogi Addysg wedi derbyn ymateb cadarnhaol i gyfarfodydd, ac amlygodd rhai o’r materion a godwyd gan rieni a’r datrysiadau a nodwyd. Roedd yr Awdurdod yn rhan o’r fforymau rhanbarthol a chenedlaethol a darparwyd sicrwydd y byddai canllawiau diwygiedig yn cael eu darparu flwyddyn nesaf. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cynnig cronfa ddata o bob disgybl a oedd yn derbyn addysg yn y cartref, ond roedd y gymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gwrthwynebu’r cynnig hwn, felly byddai’n rhaid aros am ganllawiau mewn perthynas â hyn.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie, diolchodd yr Uwch Reolwr iddo am ei sylwadau cadarnhaol, a dywedodd y byddai hi’n rhannu’r rhain â’r tîm. O ran grwpiau neu debygrwydd, dywedodd fod hyn yn amrywio gyda rhai’n dal i brofi lefelau uchel o orbryder, ac roedd y plant hyn yn gallu cael mynediad at eu haddysg y tu allan i’r ysgol. Eglurodd fod rhai rheini’n dewis gwneud hyn o ganlyniad i’r pwysau sydd ynghlwm â phresenoldeb yn yr ysgol. Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn herio rhieni mewn perthynas â hyn gan ofyn ai dyma oedd y dewis cywir i’r unigolyn ifanc ac a oedd sylwadau a chyfranogiad yr unigolyn ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses hon. Tynnodd sylw hefyd at nifer y disgyblion a oedd wedi dychwelyd i’r ysgol yn dilyn gwaith rhagweithiol gan yr ysgol a’r tîm.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch monitro plant nad ydynt yn derbyn addysg, nododd yr Uwch Reolwr fod ... view the full Cofnodion text for item 38