Mater - cyfarfodydd
Learning from the School Performance Monitoring Group
Cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 31)
31 Dysgu o'r Grwp Monitro Perfformiad Ysgolion PDF 117 KB
Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a dysgu gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gan gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion y gwaith mae’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion wedi’i gwblhau gan gynnwys y gefnogaeth a ddarparwyd a’r heriau a wynebwyd gan ysgolion sy’n tanberfformio. Darparodd wybodaeth ar y newidiadau cyson mewn perthynas â gwella ysgolion, p’un a yw hynny’n lleol neu’n genedlaethol, gyda phob ysgol ar eu siwrnai eu hunain tuag at welliant er mwyn canolbwyntio’n well ar ganlyniadau eu pobl ifanc. Roedd gan bob ysgol gynlluniau a dulliau cefnogaeth i’w helpu i ddarparu eu blaenoriaethau mewn perthynas â gwelliant. Roedd angen cefnogaeth â mwy o ffocws o bryd i’w gilydd, a soniodd am gyfarfodydd y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru (GwE) a oedd yn ystyried cynnydd ysgolion unigol, ac amlinellodd sut byddent yn ymdrin ag ysgolion. Os oedd unrhyw ysgol yn ymofyn cefnogaeth ychwanegol, byddai hyn yn cael ei uwchgyfeirio at y Bwrdd Ansawdd ar gyfer yr Awdurdod Lleol a GwE, a byddai penderfyniad yn cael ei wneud i uwchgyfeirio at y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn dilyn hynny. Roedd hon yn broses gynhyrchiol a chadarnhaol a oedd yn galluogi gwelliannau cyflym. Ni fyddem yn dymuno i unrhyw ysgol fynd drwy’r broses hon, ond roedd yn anochel o ystyried yr heriau sy’n wynebu ysgolion. Oedwyd hyn yn ystod y pandemig, ac yn sgil gohirio ymweliadau Estyn, bu rhai ysgolion yn destun y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn hirach na’r disgwyl. Y pwyntiau allweddol oedd y camau nesaf a gytunwyd i helpu ysgolion i wella ac eglurodd y fframwaith gwahanol ar gyfer atebolrwydd.
Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie fel aelod panel blaenorol ac eglurodd ei fod wedi parhau i ddysgu gyda chefnogaeth y Prif Swyddog. Dywedodd fod y broses hon yn gweithio ac yn creu’r amgylchedd a’r canlyniadau cywir i helpu i gael ysgolion ar y trywydd iawn.
Cytunodd y Cynghorydd Carolyn Preece gan ddweud ei bod wedi mynychu nifer o arolygon lle bu’n rhaid gosod ysgolion dan fesurau arbennig. Roedd yn amlwg yn ystod ei hail ymweliad â’r ysgol gydag Estyn ei fod yn llwyddiannus. Cyfeiriodd at yr ail argymhelliad a gofynnodd a fyddai modd iddi gynnig ei henw.
Cyfeiriodd Mrs Wendy White at yr ysgolion ffydd o fewn Sir y Fflint a chanmolodd yr Uwch Reolwr a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y gefnogaeth a ddarparwyd a dywedodd bod Sir y Fflint yn gweithio mewn modd cadarnhaol iawn gyda’r Esgobaeth Gatholig.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y broses yn un llwyddiannus a sefydledig sy’n darparu cefnogaeth a her i ysgolion gan ddarparu ymyrraeth cyn arolwg Estyn. Cyfeiriodd at yr arolwg Estyn yn 2011 a argymhellodd y dylai aelodau gymryd rhan yn y panel hwn i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa mewn ysgolion, ac roedd swyddogion yn gwerthfawrogi safbwynt Aelodau ar y Panel. Roedd gan Aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol brofiad o’u hysgol eu hunain yn ogystal â barn wrthrychol i ofyn cwestiynau i ysgolion a herio swyddogion i sicrhau fod y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu. Roedd y cyfarfodydd ... view the full Cofnodion text for item 31