Mater - cyfarfodydd

School Reserves Year Ending 31 March 2022

Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 23)

23 Cronfeydd wrth Gefn Ysgol Y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2022 pdf icon PDF 163 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) wybodaeth fanwl am lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint yn dilyn effaith y pandemig.  Esboniodd bod yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda Phenaethiaid, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth fanwl am gronfeydd wrth gefn ysgolion ar draws y tri sector, tynnu sylw at gronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a’r tueddiadau dros y 5 mlynedd diwethaf.   Cyfeiriodd at 2020 pan oedd lefelau pryderus o isel o gronfeydd wrth gefn gan ysgolion a dywedodd bod y cynnydd dros y 2 flynedd diwethaf wedi cael ei groesawu.  Digwyddodd hyn ar yr un pryd â chynnydd sylweddol yng nghyllid LlC i ysgolion dros y 2 flynedd diwethaf, ac fe amlinellwyd hyn yn adran 1.03 yr adroddiad.  Roedd gan bob ysgol resymau penodol dros lefelau eu balansau a chynlluniau unigol mewn lle ar gyfer y dyfodol.  Roedd yn rhaid cael cydbwysedd i sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario ar addysg y disgyblion presennol, ac nad oedd symiau gormodol o arian yn cael eu cadw yn ôl heb resymau clir, fel nad oedd yr ysgol yn mynd i ddyled.  Darparodd wybodaeth am rôl y Cyngor o ran monitro cronfeydd wrth gefn ysgolion ac esboniodd bod gofyn i bob ysgol gwblhau ffurflen datgan cronfeydd wrth gefn a Chynllun Tymor Canolig ar gyfer y 3 mlynedd nesaf yn amlinellu cynlluniau’r ysgol.  

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â sicrhau bod tablau’n cael eu cyflwyno yn yr un fformat trwy gydol yr adroddiadau, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai’n sicrhau bod hyn yn cael ei newid mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â chronfeydd wrth gefn gwirioneddol yn cael eu camliwio oherwydd cyllid grant, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod gwerth y grantiau wedi cael ei dynnu allan o’r cronfeydd wrth gefn y llynedd, ond roedd pethau’n wahanol eleni gan mai un o’r grantiau mwyaf oedd refeniw atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion ac ni chyrhaeddodd tan ddyddiau olaf mis Mawrth a oedd yn golygu na chafodd ysgolion gyfle i wario’r arian hwnnw.  Byddai ysgolion wedi ymdrin â hwn yn wahanol gyda rhai yn ei wario ar unwaith ac eraill yn defnyddio grantiau i ariannu gwaith dros yr haf a olygai bod hwn yn dal i fod yn eu balansau.  Dywedodd bod ei gyflwyno fel hyn yn tynnu sylw at lefel gynyddol yr arian y mae ysgolion wedi’i dderbyn a’r effaith bosibl ar gronfeydd wrth gefn ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gynyddu treth y cyngor i gynorthwyo â diffygion yng nghyllidebau ysgolion uwchradd, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod swm ychwanegol o gyllid wedi cael ei roi yng nghyllidebau ysgolion uwchradd yn 2020/2021, oherwydd argymhelliad 4 Estyn i fynd i’r afael â diffygion ysgolion uwchradd yn fwy effeithiol.  Roedd hwn y tu allan i fformiwla cyllid uwchradd ac wedi’i dargedu’n benodol at leihau diffygion.  Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 23