Mater - cyfarfodydd

Estyn Inspection of Adult Community Learning (ACL) within the North East Wales Adult Community Learning Partnership

Cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 30)

30 Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 116 KB

Cyflwyno Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Llongyfarchodd y Cadeirydd y Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned am yr adroddiad cadarnhaol yn dilyn yr Arolwg Estyn.   Roedd hi’n falch o weld bod Estyn wedi gwneud cais am ddwy astudiaeth achos gan eu bod wedi arsylwi arfer gorau ac yn awyddus i’w rhannu.    Roedd hi hefyd yn fodlon bod y meysydd i’w gwella a nodwyd yn yr adroddiad eisoes wedi cael eu cydnabod gan y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n amlygu eu hunanwerthusiad cadarn.

 

            Diolchodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion i’r Cadeirydd am ei sylwadau.   Darparodd amlinelliad cryno o’r gwaith partneriaeth uchelgeisiol gyda Wrecsam a oedd wedi galluogi Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru i ehangu’r ddarpariaeth a chyfleoedd i oedolion sy’n dysgu.   Cwblhawyd llawer o’r gwaith hwn yn ystod y pandemig a thyfodd y Bartneriaeth yn ystod y cyfnod hwn, yn arbennig lefel y cyswllt â Phartneriaid.   Rhoddwyd amlinelliad o’r cynnydd ers y cyfnod hwn a’r trafodaethau a gafwyd gydag Estyn mewn perthynas â’r weledigaeth ar gyfer y Bartneriaeth a’r angen am gyllid cynyddol i ddarparu’r momentwm i sicrhau bod hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.   Gan gyfeirio at yr adroddiad gan Estyn, dywedodd fod y cais am ddwy astudiaeth achos yn ategu at weledigaeth a chyfeiriad y Bartneriaeth, yn ogystal ag argymhellion 1 i 3 a oedd eisoes wedi’u nodi yng Nghynllun Gwella Ansawdd y Bartneriaeth a rannwyd gydag Estyn yn ystod yr Arolwg.  O ran argymhelliad 4, roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a ddarparwyd yn 2020/21 yn amlygu sut darparwyd cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn, a darparodd wybodaeth ar sut gall dysgwyr ganfod mwy am gyrsiau a chofrestru, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer ymgysylltu pellach i’r dyfodol.

 

            Dywedodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl 16 ac Oedolion yn y Gymuned ei bod yn falch iawn o ganlyniad yr adroddiad yn arbennig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.    Darparodd sicrwydd i’r tîm mewn perthynas â phrosesau megis yr adroddiad hunanwerthuso a’r cynllun gwella ansawdd.   Roedd hyn hefyd wedi helpu i nodi’r camau nesaf i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau i bob oedolyn sy’n dysgu yn Sir y Fflint.

 

            Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie’r tîm ar adroddiad yr arolwg a’r gwaith a gwblhawyd o fewn blwyddyn.   

 

            Mewn ymateb i sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd  Dave Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod y cwestiynau hyn wedi codi yn y Bwrdd Rheoli, cyfarfodydd Cwricwlwm ac Ansawdd ac yn dod o dan y Cynllun Gwella Ansawdd ar gyfer y Bwrdd.   Roedd hi’n gobeithio y byddai adroddiadau i’r Pwyllgor yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth ar ganlyniadau a chyflawniadau wrth i’r Bartneriaeth ddatblygu.   Oedwyd prosesau casglu data cenedlaethol ar bresenoldeb, cyfraddau cwblhau a chyfraddau cyflawni yn ystod Covid, ond dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y set ddata nesaf a gesglir yn cael ei chyflwyno.   Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol i egluro sut datblygwyd yr argymhellion hyn i gamau gweithredu a chanlyniadau.   Darparodd wybodaeth ynghylch mapio  ...  view the full Cofnodion text for item 30