Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23 Timeline Review

Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 25)

25 Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 84 KB

Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid bod 32 o eitemau busnes craidd ar yr amserlen gyda dyddiadau cwblhau wedi’u hamcangyfrif ynghyd â 7 eitem prosiect gyda dyddiadau dechrau a dyddiadau cwblhau wedi’u hamcangyfrif.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) pan gyflwynwyd Cynllun y Cyngor i’r Pwyllgor, roedd pryderon oherwydd mai 31 Mawrth 2023 oedd dyddiad adrodd diwedd blwyddyn nifer o’r camau gweithredu.  Roedd yr Uwch Dîm Rheoli wedi adolygu’r dyddiadau hyn ac roedd rhai o’r camau gweithredu wedi cael dyddiadau cwblhau cynharach.  Cadarnhaodd y byddai diweddariadau ar y rhain yn cael eu rhoi yn ystod y gylched adroddiadau perfformiad arferol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie, os oedd y dyddiad wedi pasio, a oedd hynny’n golygu bod y cam gweithredu wedi’i gwblhau.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod hynny’n gywir.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno i adolygu Rhan 1 Cynllun y Cyngor a diweddaru’r amserlenni ar gyfer eu cwblhau, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.