Mater - cyfarfodydd
Pension Administration/Communications Update
Cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 17)
17 Diweddariad Gweinyddu a Cyfathrebu PDF 176 KB
Diweddariad Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddol a chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 Administration and Communications Employer Liaison Team Appendix 1 Qtr 1 2, eitem 17 PDF 176 KB
- Enc. 2 for Pension Administration/Communications Update, eitem 17 PDF 164 KB
- Enc. 3 for Pension Administration/Communications Update, eitem 17 PDF 212 KB
- Enc. 4 for Pension Administration/Communications Update, eitem 17 PDF 290 KB
- Enc. 5 for Pension Administration/Communications Update, eitem 17 PDF 254 KB
- Enc. 6 for Pension Administration/Communications Update, eitem 17 PDF 58 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Gweinyddu a Cyfathrebu
Cofnodion:
Amlygodd Mrs Williams fod yr eitem hon ar y rhaglen ar gyfer ei nodi a siaradodd am y pwyntiau allweddol canlynol.
- Roedd y tîm yn brysur gyda busnes fel arfer, rhaglen McCloud, paratoi dangosfwrdd bwrdd pensiynau cenedlaethol ac ail gyfrifo buddion aelodau o ganlyniad i ddyfarniad cyflog ôl-weithredol 2021/22.
- Amlinellwyd y materion o ran adnoddau ym mharagraff 2.01, oedd yn dangos nifer y swyddi gwag oedd ar gael yn y Gronfa ac unrhyw benodiadau a wnaed. Ers i’r papur gael ei ddrafftio, roedd y Gronfa wedi cyfarfod â chynghorwyr AD ac roeddent wrthi’n gwella geiriad yr hysbyseb swydd i ddenu ymgeiswyr yn well. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys newidiadau i deitlau swyddi i gynnwys y gair “gweinyddu” fel y byddai’n ymddangos mewn mwy o chwiliadau am swyddi. Roedd disgwyl i’r hysbysebion fynd yn fyw yn yr wythnosau nesaf.
Holodd y Cyng Hughes a oedd y gronfa wedi meddwl am gyflogi prentis. Cadarnhaodd Mrs Williams fod gan y Gronfa ddau brentis yn barod, felly ni fyddai mwy yn cael eu cyflogi eleni gan fod y pwyslais presennol ar recriwtio aelodau mwy profiadol i’r tîm.
Yna, cyflwynodd Mrs Williams sleidiau hyfforddi am y dangosfwrdd pensiynau cenedlaethol ac amlygodd y canlynol:
- Mae datblygiad y dangosfwrdd pensiynau cenedlaethol yn berthnasol i bob cronfa bensiynau (nid dim ond y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol) ond canolbwyntiodd y sesiwn ar sut y bydd yn effeithio ar Gronfa Bensiynau Clwyd.
- Mae’r prosiect dangosfwrdd yn cael ei gynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau; bydd yn caniatáu i unigolion weld eu holl wybodaeth cynlluniau pensiwn mewn un lle i helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad ac ymgysylltu mwy. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer aelodau nad ydynt wedi ymddeol eto (aelodau gweithredol a gohiriedig) – nid i bensiynwyr.
- Mae angen i’r Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Trysorlys Ei Fawrhydi, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, darparwyr y system dangosfwrdd, rheolwyr y cynllun a gweinyddwyr darparwyr meddalwedd i gyd weithio gyda’i gilydd ar y prosiect hwn er mwyn iddo gael ei ddarparu ar amser.
- Mae’r gofynion yn cael eu rhoi mewn deddfwriaeth i orfodi cynlluniau i ddarparu gwybodaeth drwy ddangosfwrdd. Felly roedd gofyn i’r Gronfa baratoi data i gysylltu ag eco-system y dangosfwrdd pensiynau.
- Byddai aelodau nad ydynt wedi ymddeol yn cael mynediad at fanylion trefniadau pensiwn, manylion cyflogaeth, pensiwn cronedig ac amcangyfrif o incwm ar ôl ymddeol. Fodd bynnag, disgwylir cyfyngiadau o fewn y dangosfwrdd hwn felly roedd Mrs Williams yn awyddus i hyrwyddo Hunan Wasanaeth Aelodau’r Gronfa gan fod hyn yn golygu mwy o ymgysylltu uniongyrchol ag aelodau.
- Mae’n ofynnol i bob cynllun sector cyhoeddus gael eu rhoi ar yr isadeiledd dangosfwrdd pensiwn erbyn mis Medi 2024, ond nid yw hyn yn golygu y bydd aelodau’n cael mynediad ato erbyn mis Medi 2024. Disgwylir y bydd yn mynd yn fyw tuag at ddiwedd 2024.
- Hefyd, nid oedd angen darparu un elfen o’r data, sef data gwerth, hyd nes mis Ebrill 2025, oherwydd bod y gwaith parhaus ar y rhaglen McCloud ... view the full Cofnodion text for item 17