Mater - cyfarfodydd

Draft Stewardship Code Submission

Cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 15)

15 Cyflwyniad Cod Stiwardiaeth pdf icon PDF 127 KB

Darparu cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ei ystyried ac i ddirprwyo cymeradwyaeth y fersiwn terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad hwn gan dynnu sylw at y ddau argymhelliad ar dudalen 185. Roedd yr atodiad yn cynnwys yr Adroddiad Stiwardiaeth drafft, fyddai angen cael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Hydref, cyn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd. Dyna pam y gofynnir i’r Pwyllgor ei ystyried yn y cyfarfod hwn a dirprwyo cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Ychwanegodd y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd Mercer wedi cefnogi’r gwaith o ddrafftio’r Adroddiad Stiwardiaeth ac roedd yn cynnwys materion y mae’r Gronfa yn eu gwneud eisoes, wedi eu gwneud yn y gorffennol, neu’n bwriadu eu gwneud yn y dyfodol.

-       Roedd y gronfa’n rhan o’r WPP, oedd eisoes wedi cyflwyno adroddiad ar gyfer y Cod Stiwardiaeth yn gynharach eleni.

-       Roedd dau draean o asedau’r Gronfa y tu allan i’r WPP, felly roedd Mr Latham yn credu ei bod yn iawn i’r Gronfa hefyd ddod yn llofnodwr y Cod.

-       Wedi iddo gael ei gyflwyno, byddai’r Cyngor Adrodd Ariannol yn rhoi sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, os oedd y cyflwyniad yn llwyddiannus neu beidio. Os bydd yn llwyddiannus, bydd ar y Gronfa angen dangos datblygiad a gwelliannau parhaus, gan eu bod angen ailymgeisio’n flynyddol i gadw statws fel llofnodwr.

-       Dywedodd Mr Latham fod egwyddor 1 yn cynnwys diffiniad o stiwardiaeth - “Mae pwrpas, credoau buddsoddi, strategaeth a diwylliant y llofnodwyr yn galluogi stiwardiaeth sy’n creu gwerth hirdymor i gleientiaid a buddiolwyr gan arwain at fuddion cynaliadwy i’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas”.

-       Roedd paragraff 1.07 yn amlygu’r pedair prif adran a’r 12 egwyddor sylfaenol.

-       Roedd paragraff 1.09 i 1.12 yn amlygu’r prif feysydd a sut yr ymdrinnir â nhw drwy’r Gronfa neu’r WPP.

-       Roedd paragraff 1.13 ymlaen yn rhoi’r prif bwyntiau i’w nodi fel rhan o’r cyflwyniad. Roedd Mr Latham yn credu mai un o feysydd cryfaf cyflwyniad y Gronfa oedd y portffolios marchnadoedd preifat, ble mae gan y Gronfa bwyslais cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Ystyriodd y Pwyllgor gynnwys y cyflwyniad drafft.

(b)      Dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.