Mater - cyfarfodydd
Update on the Creation of National Forum for Independent Members
Cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Safonau (eitem 23)
Diweddariad ar greu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol
Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch a oes digon o gefnogaeth i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad i’r Pwyllgor ar lafar yn nodi a oedd digon o gefnogaeth i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y mater gan ddweud bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cytuno i ddarparu cefnogaeth ysgrifennydd i Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol. Soniodd am aelodaeth arfaethedig y Fforwm a nifer y cyfarfodydd a fyddai’n cael eu cynnal bob blwyddyn. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyflwyno cynigion yng nghyfarfod nesaf y Swyddogion Monitro ac y byddai’n rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad y cyfarfod hwnnw yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 7 Tachwedd 2022.