Mater - cyfarfodydd
Town centre regeneration
Cyfarfod: 11/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 25)
25 Adfywio Canol Trefi PDF 124 KB
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr ymatebion lleol sy’n cael eu cynllunio a’u darparu i adfywio canol trefi Sir y Fflint ac am fynd i’r afael ag eiddo gwag drwy gamau gorfodi. Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Camau Gorfodi drafft a’r dull arfaethedig i ddatblygu Cynlluniau Bro.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir ac adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyd-destun strategol ar gyfer adfywio canol trefi a’r rhaglenni gwaith sydd yn weithredol ar hyn o bryd. Ar ben hynny, roedd yn darparu manylion am ddatblygiad Cynlluniau Lleoedd a’r camau gorfodi angenrheidiol i fynd i’r afael ag eiddo gwag yng nghanol trefi.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers os byddai adfywio canol trefi yn cynnwys ystyried yr uwchgynlluniau presennol neu a fyddai’r Cynlluniau Lleoedd yn disodli’r uwchgynlluniau. Cyfeiriodd hefyd at adran 1.14 yn yr adroddiad a gofynnodd pryd fyddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r meini prawf i’w ddefnyddio i flaenoriaethu eiddo ar gyfer ymyrryd. Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fyddai’n bosib darparu manylion yngl?n â chyfranogiad Aelodau Lleol wrth greu Cynlluniau Lleoedd ac amserlenni. Soniodd y Cynghorydd Peers am y broblem o eiddo masnachol gwag yng nghanol trefi a dywedodd mai’r adborth a gafwyd oedd bod y ffioedd rhent yn rhy uchel, a gofynnodd a fyddai modd edrych ar hyn. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i’r pwyntiau a wnaed.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 179, adran 2.01 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai’r arian cyfatebol yn dod o berchnogaeth breifat o eiddo neu gan y Cyngor. Soniodd y Cynghorydd Bithell am y bwlch yn y gyllideb i’w drafod gan y Cyngor. Wrth ymateb, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai angen i’r sector cyhoeddus ddarparu’r balans.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gofynion i ddatblygu Cynlluniau Lleoedd ar gyfer y 7 tref
(Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton)yn Sir y Fflint, a chefnogi’r drefn y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gwblhau o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael; a
(b) Nodi’r gofyniad i fynd i’r adael ag eiddo gwag yng nghanol trefi drwy
gamau gorfodi, a chefnogi’r meini prawf a’r dull a ddefnyddir.