Mater - cyfarfodydd

Levelling Up Fund

Cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet (eitem 81)

81 Cronfa Ffyniant Bro pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ddatblygiad y rhaglen a’r prosiectau a gofyn iddynt ddyrannu cyllid cyfalaf i fodloni’r gofynion ariannu cyfatebol a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd, fel y cyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant yn 2020, fod y Gronfa Ffyniant Bro yn cyfrannu at raglen ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, trwy fuddsoddi mewn isadeiledd a fyddai’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.  

 

Bwriad y gronfa gwerth £4.8 biliwn oedd creu effaith weledol a diriaethol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg ar ddatblygiad a chyflwyniad dau gais yn unol â’r strategaeth ymgeisio a gytunwyd gan y Cabinet ar 18 Ionawr 2022 ac ar drydydd cais cludiant strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen yn gyffredinol ac yn ceisio dyraniad o gyllid cyfatebol o’r rhaglen gyfalaf o £1,106,915 (£630,467 cais Alyn a Glannau Dyfrdwy, £476,448 cais Delyn) er mwyn cael cyllid gan Lywodraeth y DU.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a bod yr argymhellion wedi cael eu cefnogi. Wrth ailgyflwyno’r Cais Cludiant, cadarnhaodd fod yr elfen nad oedd yn cael ei chefnogi yn y rownd gyntaf wedi cael ei dileu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd o ran datblygiad a chyflwyniad ceisiadau i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU;

 

(b)       Nodi’r risgiau a’r mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â’r pecyn o gynnyrch;

 

(c)        Sicrhau bod y cyllid cyfatebol o hyd at £1.107 miliwn ar gael o’r rhaglen gyfalaf yn 2024/2025.