Mater - cyfarfodydd

Housing regeneration grants and loans policy

Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 162)

162 Polisi grantiau a benthyciadau adfywio tai pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Gofyn i’r Cabinet adolygu a chymeradwyo’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Adfywio Tai diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod rôl y Tîm Adfywio Tai wedi newid dros y blynyddoedd ers iddo gael ei greu gan fod cyllid wedi canolbwyntio mwy ar leihau carbon mewn tai a llai ar fesurau ehangach i wella cyflwr tai yn y sector preifat.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tîm, yn nodi cyfres o flaenoriaethau a argymhellwyd i’r tîm ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol, ac yn cynnig y dylai’r Polisi Grantiau a Benthyciadau’r Sector Preifat, sydd bellach yn hen ffasiwn, gael ei ddisodli gan restr syml o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ddeiliaid tai yn Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cefnogwyd ei ganfyddiadau a’i gynnwys.  Gwnaed sylw ar yr angen am gyfathrebu â phreswylwyr i'w hysbysu ynghylch sut y gellid cael gafael ar yr arian.  Byddai adroddiad ar wahân ar fenthyciadau, gan gynnwys benthyciadau canol tref, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Tîm Adfywio Tai yn cael ei nodi a bod blaenoriaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yn cael eu cymeradwyo; a

 

(b)       Cymeradwyo'r rhestr grantiau a benthyciadau, a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a Chefn Gwlad a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i amrywio'r amserlen wrth i'r cyllid sydd ar gael neu'r gofynion newid.