Mater - cyfarfodydd
Shared Prosperity Fund
Cyfarfod: 15/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 33)
33 Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU PDF 136 KB
Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen ac argymell i’r Cabinet eu bod yn cymeradwyo’r fframwaith blaenoriaethau a’r prosesau sydd eu hangen i roi’r rhaglen ar waith yn effeithiol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr isadeiledd rheoli rhaglen, yn lleol ac yn rhanbarthol, ac yn nodi’r blaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y rhaglen yn ogystal â’r meini prawf a fyddai’n cael ei ddefnyddio i asesu’r prosiectau sy’n ceisio cyllid drwy’r rhaglen. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu diweddariad eang ar y prosiectau Cyngor strategol a oedd wrthi’n cael eu datblygu’n barod ar gyfer y rhaglen. Gofynnwyd i’r Aelodau argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r fframwaith o flaenoriaethau a phrosesau angenrheidiol i weithredu’r rhaglen yn effeithiol.
Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid y prosiect ac fe ganmolodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar ei waith.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) bod y cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol yn cael ei nodi;
(b) bod yr amlinelliad bras o’r strwythurau a’r prosesau a ddefnyddir i ddarparu’r rhaglen yn cael ei nodi; a
(c) bod defnyddiau arfaethedig o gronfeydd 2022/2023 gan y Cyngor yn cael eu cefnogi.