Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 41)

41 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol a dywedodd wrth yr aelodau y byddai adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Therapi Galwedigaethol yn cael ei ychwanegu yng nghyfarfod mis Ebrill.  Mae’n bosibl hefyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin ar Sut Mae Plant yn Dod i’n System Gofal - Graddfeydd Amrywiol o Ymyrraeth, Credyd Cynhwysol a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a fyddai modd cael y newyddion diweddaraf am amseroedd aros ar gyfer Asesiadau Therapi Galwedigaethol yng nghyfarfod mis Ebrill.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen a oedd yna broblem cyfathrebu rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr a phlant yn eu cartref eu hunain oherwydd trais domestig. Wrth ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu eu bod yn ymwybodol bod Trais Domestig a Cham-drin Domestig yn cael effaith ar oedolion a phlant, ac yn rhan o’u Canolbwynt Cymorth Cynnar sy’n cynnwys 17 asiantaeth, roedd 2 o’r rhain o adran Tai, yn cydweithio ar atgyfeirio ac yn edrych sut y gallent gefnogi plant a theuluoedd yn gynnar. Roedd yna fenter da gyda’r Heddlu o’r enw Ymgyrch ‘Encompass’ oedd yn gwella cyfathrebu rhwng yr Heddlu ac ysgolion pan roedd plentyn mewn perygl o gam-drin domestig.    Pwrpas rhannu gwybodaeth oedd sicrhau bod gan ysgolion fwy o wybodaeth i gefnogi diogelu plant ac i fod mewn sefyllfa well i ddeall os oedd damwain wedi digwydd. Fe awgrymodd bod eitem yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gan fod sawl blwyddyn wedi bod ers i’r Ganolbwynt Cymorth Cyntaf adrodd arno. Fe eglurodd hefyd wrth yr Aelodau am y Triawd Gwenwynig oedd yn ymwneud ag iechyd meddwl, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Roedd y Ganolbwynt Cymorth Cyntaf yn gweld llawer o hyn.

 

            Fe ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yngl?n ag ymweliadau Climbie a dywedodd fod yna argymhelliad flynyddoedd yn ôl yn dilyn marwolaeth plentyn y dylai Aelodau Etholedig allu cael trafodaethau uniongyrchol gyda staff rheng flaen er mwyn iddynt ddeall y materion.  Fe aeth Aelodau Trosolwg a Chraffu i Fflint yn y gorffennol i weld y timau i ofyn cwestiynau, ond fe ddaeth hyn i stop yn ystod y pandemig, serch hynny, gan fod staff bellach yn ôl yn eu swyddfeydd fe fyddai’n syniad da, yn enwedig i Aelodau newydd gyfarfod y staff.

 

            Fe fydd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) yn trafod gyda’r Hwylusydd i roi manylion cyswllt i’r holl Aelodau am yr asiantaethau sy’n ymwneud â Cham-drin Domestig a Chamdriniaeth yr oedd y Cynghorydd Ellis wedi gofyn amdanynt.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Claydon a oedd adrodd rheolaidd yn digwydd am ddelio â cham-drin domestig naill yn y Pwyllgor hwn neu’r Pwyllgor Tai. Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i bob Pwyllgor oedd yn adrodd ar y mater i’w gynnwys ar eu rhaglen er mwyn iddynt allu cael mynediad ato. Fe ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) pan fyddai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 41