Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 08/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 33)

33 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a'r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol a dywedodd wrth yr Aelodau y byddai Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2022-23 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar 19 Ionawr 2023 ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet Anffurfiol. Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod Nanny Biscuit wedi cadarnhau y byddent yn mynychu'r cyfarfod ar 2 Mawrth 2023 i roi cyflwyniad ar y gwaith y maent yn ei wneud yn y Gymuned ac yn Sir y Fflint. Dywedodd mai'r gobaith oedd y byddai Aelodau'n gallu ymweld â Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) cyn y cyfarfod ar 20 Ebrill a fyddai o fudd i Aelodau newydd. Wrth symud ymlaen roedd disgwyl y byddai eitem yn cael ei rhoi ar raglen yn y dyfodol i drafod Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Therapi Galwedigaethol a godwyd mewn cyfarfod diweddar gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

            Adroddodd fod y Cynghorydd Mackie wedi derbyn ymateb mewn perthynas â'r ymholiadau oedd ganddo am Gynllun y Cyngor ac ar gais y Cadeirydd, byddai'r holl Aelodau yn derbyn copi o'r ymateb hwnnw.

 

            Anogwyd yr aelodau i gysylltu â'r Hwylusydd os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr hoffent eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

           

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies.        

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)             Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft;

 

(b)             Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)             Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.