Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 27/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 20)

20 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd  yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol a dywedodd bod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gadael.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Jill Harris a oedd wedi gweithredu fel Prif Weithredwr (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yn flaenorol yn cyflenwi’r swydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo.  Gofynnodd y Cadeirydd os oes gan unrhyw Aelod gwestiynau ar gyfer y cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd ar 30 Tachwedd, a bod angen eu cyflwyno i’r Hwylusydd erbyn 1 Tachwedd er mwyn eu hanfon ymlaen i’r Bwrdd allu ymchwilio’r cwestiynau a chael atebion ar y diwrnod yn hytrach nag ateb ar ddyddiad diweddarach.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr Aelodau y byddai staffio yn cael ei gyfeirio mewn adolygiad o Adroddiad Perfformiad ar 8 Rhagfyr, ac roedd y Cynghorydd Claydon wedi codi pryder amdano, yn arbennig y pwysau o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

Anogodd yr Hwylusydd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau maent yn dymuno ychwanegu i’r Rhaglen.

 

Hysbysodd yr Uwch Reolwr - Oedolion yr Aelodau bod ffeiliau staff a phobl sydd yn byw â chymorth mewn fformat digidol bellach, fodd bynnag roedd Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru dal yn gofyn am gopi papur ac roedd yr Hwylusydd yn dweud mai hwn yw’r eitem sydd dal heb ei gwblhau ar olrhain camau gweithredu.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Rob Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.