Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 20)
20 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 20 PDF 79 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 20 PDF 73 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, a ddiwygiwyd yn dilyn y cyfarfod diwethaf gan ymgorffori awgrymiadau a wnaed gan aelodau o’r Pwyllgor. Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod yr holl gamau gweithredu bellach wedi’u cwblhau. Roedd un eitem yn dal i fod ar y gweillgan yr Ymgynghorydd Iechyd, Lles a Diogelu, a gadarnhaodd ei bod yn mynd ar ôl ymatebion gan bobl ac y byddai’n cylchredeg y rhain unwaith y byddai wedi’u derbyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease yngl?n â sut oedd mynediad at y rhyngrwyd i staff mewn ysgolion yn cael ei reoli a’i fonitro, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod gan bob ysgol bolisi defnydd derbyniol yr oedd gofyn i bob aelod o staff ei lofnodi, a bod y rhyngrwyd a’r mur gwarchod yn cael eu monitro yn Neuadd y Sir. Roedd adroddiad ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn flynyddol ac yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Cytunodd siarad gyda’r Ymgynghorydd Iechyd, Lles a Diogelu a darparu ymateb i’r Cynghorydd Crease yn dilyn y cyfarfod.
Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.