Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 11/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 17)

17 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. O gyfeirio at y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd fod yr holl gamau gweithredu wedi’u cyflawni ac y byddai’r argymhellion gan y Pwyllgor ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau’r nifer o eiddo gwag yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Ionawr 2022.  

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.