Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 12/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 24)
24 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 83 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 24 PDF 78 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 24 PDF 59 KB
- Appendix 3 – List of topics suggested by Members of the Council, eitem 24 PDF 67 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i gael ei hystyried, gan amlinellu’r diwygiad arfaethedig canlynol:-
· Y byddai adroddiad am Gontract Storfeydd yn cael ei ddwyn ymlaen a’i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 16 Tachwedd
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau. Ar gyfer y camau a oedd yn barhaus, eglurodd yr Hwylusydd fod sesiwn friffio ar gyfer pob Aelod wedi’i threfnu, a bod hysbysiad wedi’i anfon at Aelodau. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi dyddiad ar gyfer ymweliad safle a byddai Aelodau’n cael gwybod pan fyddai dyddiad wedi’i gytuno.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tina Claydon at yr eitem ar Dlodi a oedd wedi’i threfnu i’w chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2023 ac awgrymodd ei bod yn cael ei dwyn ymlaen i gyfarfod cynharach. Cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â’r swyddog perthnasol am hyn ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.