Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2023-28
Cyfarfod: 12/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 27)
27 Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 96 KB
Pwrpas: Cytuno ar y Blaenoriaethau arfaethedig, Is Flaenoriaethau a’r Amcanion Lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: Council Plan 2023-28 – Proposed Priorities, Sub-priorities and Well-being Objectives relevant to the Community, Housing & Assets Overview & Scrutiny Committee, eitem 27 PDF 42 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod. Atgoffwyd Aelodau fod hon yn ddogfen gryno lefel uchel, a chaiff rhagor o fanylion eu hadrodd yn Rhan 2 Cynllun y Cyngor.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddisodli ac adnewyddu paneli ynni/solar, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai fod paneli solar yn cael eu gwasanaethu, eu hasesu a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd, a byddent yn cael eu disodli pan fo’r gofyn. Dywedodd nad oes cylch oes pendant i’r offer, ond byddai’n disgwyl iddynt bara tua 15 mlynedd.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.