Mater - cyfarfodydd
Development of a Local Visitor Levy
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 49)
49 Datblygu Ardoll Ymwelwyr Lleol PDF 92 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth i’r Cabinet am yr Ardoll Ymwelwyr Lleol cyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu rhwng 2021 - 2026 yn ddiweddar, yn rhan o’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar a chyflwyno pwerau codi treth ar gyfer awdurdodau lleol i godi ardoll ar lety ymwelwyr dros nos yng Nghymru.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael mai'r amcanion polisi ar gyfer ardoll ymwelwyr oedd galluogi awdurdodau lleol i godi refeniw ychwanegol i'w ail-fuddsoddi yn yr amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.
Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth sylfaenol a chynnar i'r Cabinet ar ddatblygiad yr ardoll a’r gwaith sydd wedi’i arwain gan Lywodraeth Cymru. Byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r datblygiadau diweddaraf ar gyfer datblygu Ardoll Ymwelwyr lleol cyn ymgynghoriad ffurfiol Llywodraeth Cymru yn nhymor yr hydref 2022.