Mater - cyfarfodydd
Education & Youth Self Evaluation Report 2021 - 2022
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 50)
50 Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 2021 - 2022 PDF 99 KB
Pwrpas: I ddarparu manylion adolygiad a gwerthusiad y portffolio o’r gwasanaethau yn ystod 2021-2022.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Self Evaluation Report Education Services 2021-22, eitem 50 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 2021 - 2022
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol trwyadl o'i berfformiad a'i wasanaethau i roi sicrwydd i'r Cyngor ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint. Nododd yr adroddiad gryfderau a meysydd i’w gwella ymhellach ac adlewyrchwyd y meysydd hynny i’w gwella wedyn yng Nghynllun Gwella’r Cyngor a Chynllun Busnes y Portffolio ei hun.
Roedd yr adroddiad wedi'i strwythuro i roi sicrwydd i'r Cyngor ar draws y tri maes arolygu, sef:
- Canlyniadau
- Ansawdd y Gwasanaethau Addysg (yn cynnwys Gwasanaethau Ieuenctid)
- Arweinyddiaeth a Rheoli
Casgliad cyffredinol yr adroddiad hunanwerthuso oedd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gadarn, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn cynnig gwerth da am arian.
Gwnaeth y Cynghorydd Roberts ddiolch i'r Prif Swyddog a'i staff am eu gwaith ar y ddogfen, ac i bob aelod o staff yr ysgolion am eu cyfraniadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2021/2022; a
(b) Bod unrhyw sylwadau yn cael eu cyflwyno i'r Tîm Portffolio.