Mater - cyfarfodydd
Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2021-22 and Complaints made against Flintshire County Council during the first half of 2022-23
Cyfarfod: 25/01/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 50)
Rhannu Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill - 30 Medi 2022.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - PSOW Annual Letter, eitem 50 PDF 112 KB
- Enc. 2 - Complaint categories by portfolio, eitem 50 PDF 62 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2022-23 (Ebrill-Medi 2022)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion a ymchwiliwyd iddynt yn 2021-22.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i Rebecca Jones, y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid a oedd hefyd wedi’i phenodi fel Cadeirydd y Gr?p Cwynion Cymru Gyfan sydd â’r nod i rannu arfer dda ac adnabod gwelliannau wrth fynd i’r afael â chwynion. Wrth grynhoi prif adrannau’r adroddiad hwn, eglurodd fod y cynnydd mewn cwynion newydd yn erbyn y Cyngor yn ystod 2021/22 yn cyd-fynd â’r duedd genedlaethol ac yn debygol o fod oherwydd bod cwynion wedi cael eu hatal oherwydd y pandemig. Roedd y mwyafrif o’r cwynion hynny wedi’u cau oherwydd awdurdodaeth, eu bod yn gynamserol neu wedi’u cau ar ôl cael eu hystyried i ddechrau gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae adolygiad o wybodaeth gyhoeddus i gynyddu ymwybyddiaeth o weithdrefn gwynion y Cyngor yn helpu i leihau’r nifer o gwynion a chamau gweithredu cynamserol fel bod cwynwyr yn cael gwybod am unrhyw gynnydd a fyddai’n helpu i fynd i’r afael â nifer o achosion wedi’u dyblygu. Mae gwelliannau eraill yn cynnwys cynnydd da gyda’r rhaglen hyfforddiant gorfodol, cyflwyno polisi newydd ar reoli cyswllt cwsmer a sefydlu rheolau t? ar ymddygiad disgwyliedig ar gyfer cyswllt gyda’r Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol. Mae crynodeb o berfformiad yn ystod yr hanner cyntaf o 2022/23 yn dynodi cynnydd bychan yn y cwynion a dderbyniwyd hyd yma a gwell ymatebion i gwynion ar draws portffolios.
Roedd Matthew Harri, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion, wedi mynychu’r cyfarfod ac yn croesawu buddsoddiad y Cyngor mewn hyfforddiant a’i effaith ar atgyfeiriadau i’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a lefelau ymyrraeth yn ystod hanner cyntaf 2022/23. Cyfeiriodd at yr ymrwymiad barhaus i gefnogi rhaglen hyfforddiant y Cyngor a’r arweiniad statudol o fewn model Cymru Gyfan sydd gyda’r nod o safoni’r broses o ddelio â chwynion ledled Cymru.
Gofynnodd y Parch Brian Harvey sut y defnyddir y weithdrefn i wella gwasanaethau i gwsmeriaid. Cynghorodd swyddogion fod rhannu data perfformiad gyda swyddogion allweddol yn helpu i’w haddysgu ac i ddadansoddi tueddiadau er mwyn targedu gwelliannau, gan nodi fod natur rhai o’r cwynion y tu allan i reolaeth y Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y gwaith sy’n cael ei wneud i wella’r broses o ymdrin â chwynion ac i roi cyhoeddusrwydd i weithdrefn gwynion y Cyngor. Wrth ymateb i gwestiwn ar gwynion gan Aelodau i swyddogion fe gynghorodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid fod data perfformiad yn seiliedig ar gwynion wedi’i hadrodd yn uniongyrchol i’r Tîm Cwynion Corfforaethol.
Wrth ymateb i sylwadau ar gymharu perfformiad ar draws Cymru fe ddarparodd Matthew Harris gyd-destun ar gyfran y cwynion a gafodd eu cyfeirio at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac fe groesawodd y lleihad mewn atgyfeiriadau yn Sir y Fflint ar gyfer hanner cyntaf 2022/23 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cytunodd gyda’r pwynt a godwyd gan y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod adroddiadau diddordeb y cyhoedd yn codi proffil cyhoeddus Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus ... view the full Cofnodion text for item 50