Mater - cyfarfodydd
Performance of the WHQS Capital Programme - Assurance Report
Cyfarfod: 12/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 25)
25 Perfformiad Rhaglen Gyfalaf SATC - Adroddiad Sicrwydd PDF 135 KB
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru, y mae’r Cyngor yn ei wneud drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth Safon Ansawdd Tai Cymru gan y Cyngor trwy’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.
Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Gwasanaeth yn trafod y meysydd canlynol:-
· Safon Ansawdd Tai Cymru – Eglurhad
· Safon Ansawdd Tai Cymru – Y Sefyllfa Gyfredol
· Safon Ansawdd Tai Cymru – Heriau
· Safon Ansawdd Tai Cymru – Datgarboneiddio
· Safon Ansawdd Tai Cymru 2023
· Llafur Lleol a Phrentisiaethau
· Safon Ansawdd Tai Cymru - Camau Nesaf
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am arolygiadau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai ymweliadau ac arolygon yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o eiddo’r Cyngor fel rhan o Arolwg Cyflwr Stoc mewnol.
Soniodd y Cynghorydd Dale Selvester am effeithlonrwydd ynni thermol a gofynnodd a oedd y gwaith allanol i ddisodli gwaith rendro ar eiddo wedi’i gwblhau ar bob eiddo, neu a oedd rhai eiddo’n dal i aros gwaith. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r rhaglen yn canolbwyntio ar fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a hefyd ar ddatgarboneiddio, a byddai arolwg yn cael ei gynnal ar effeithlonrwydd ynni pob eiddo. Pan fo angen cydrannau newydd, byddai’r rhain yn cael eu disodli i sicrhau bod yr eiddo mor thermol effeithlon ag sy’n bosibl.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
Bod y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei cham nesaf o ran cydymffurfio, wrth iddi symud tuag at Safonau Ansawdd Tai Cymru wedi’u diweddaru, a’r gofyniad, yn cael eu nodi.