Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Mid-Year Review 2022/23 and Quarter 2 Update
Cyfarfod: 14/11/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 36)
36 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a Diweddariad Chwarterol 2 PDF 358 KB
Cyflwyno drafft o’r Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 1 Ebrill-30 Medi 2022 am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Treasury Management Mid-Year Report 2022/23, eitem 36 PDF 581 KB
- Enc. 2 - Investment portfolio as at 30-09-22, eitem 36 PDF 25 KB
- Enc. 3 - Long term borrowing as at 30-09-22, eitem 36 PDF 139 KB
- Enc. 4 - Short term borrowing as at 30-09-22, eitem 36 PDF 13 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a Diweddariad Chwarterol 2
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad canol blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i’w argymell i’r Cabinet, ynghyd â diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth.
Cyfeiriodd crynodeb o’r prif bwyntiau at effaith digwyddiadau byd-eang, newidiadau yn llywodraeth y DU a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfraddau llog. Cadarnhawyd bod swyddogaeth rheoli’r trysorlys wedi gweithredu’n llawn o fewn y cyfyngiadau a nodir yn y strategaeth ar gyfer 2022/23. Roedd y diweddariad chwarterol yn manylu ar y sefyllfa buddsoddiadau a benthyca fel ag yr oedd ar 30 Medi 2022, gyda nodyn atgoffa am y sesiwn hyfforddi blynyddol sydd i ddod.
Dywedodd Allan Rainford fod cydymffurfio â dangosyddion darbodus cymeradwy yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Cabinet yn ystod y cyfnod. Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod sefyllfa tan-fenthyca gyffredinol y Cyngor wedi aros yr un fath a bod penderfyniadau’n seiliedig ar ofynion, yr adnoddau sydd ar gael a lledaenu risg. Rhoddodd eglurhad ar gyd-bartïon buddsoddiad a sefydlogi cyfraddau’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus diweddar yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd.
Gan ymateb i gwestiwn ar bwysigrwydd trefniadau monitro cadarn ar gyfer rhagweld llif arian wrth weithio o bell, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sicrwydd y byddai cyswllt rheolaidd ar draws adrannau i helpu i gynllunio unrhyw ofynion benthyca yn y dyfodol. Fe soniodd am danwariant sylweddol yn dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn oherwydd na wnaed unrhyw fenthyca ar y cam hwn o'r flwyddyn ariannol ac incwm buddsoddi ychwanegol o gyfraddau llog cynyddol.
Yn unol â chais y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai manylion graddfeydd asiantaethau credyd ar gyfer pob cyd-barti buddsoddi’n cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad, a oedd wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r drafodaeth, ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Canol Blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 a chadarnhau bod y materion canlynol yn cael eu dwyn i sylw’r Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022:
- Nodi cydymffurfiad â dangosyddion darbodus cymeradwy’r Cyngor;
- Prif ystyriaethau sy’n llywio penderfyniadau benthyca; a
- Sefydlogrwydd cyfraddau’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a oedd wedi bod yn destun amrywiadau.