Mater - cyfarfodydd
Governance and Audit Committee Action Tracking
Cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 30)
30 Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 81 KB
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Action points, eitem 30 PDF 64 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
O ran y camau gweithredu o gyfarfod mis Gorffennaf, parhaodd y Cynghorydd Glyn Banks i fynegi ei bryderon am y berthynas gyfreithiol rhwng y Cyngor a Theatr Clwyd o fewn y cyfrifon, er gwaethaf yr esboniadau a roddwyd yn y cyfarfod.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ryan McKeown a'i eilio gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.