Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 31)
31 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 83 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 31 PDF 61 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformio a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli Risg i'w ddwyn ymlaen i fis Tachwedd 2022.
· Hunanasesiad y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i symud i fis Ionawr 2023 a’r gweithdy cysylltiedig i’w drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022.
· Dilyniant ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i'w gynnwys yn y wybodaeth ddiweddaraf ar Sicrwydd Allanol.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.