Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy Including Prudential Indicators 2023/24 to 2025/26

Cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 49)

49 Strategaeth Gyfalaf, yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025/26 pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Strategaeth Gyfalaf 2023/24 - 2025/26 ar gyfer ei hadolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet.   Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 - 2025/26.

 

Rhannodd y Cadeirydd ei bryderon ei hun am y gofyniad i argymell yr adroddiad yn sgil effaith penderfyniadau cyfalaf ar y cyfrif refeniw a heb y ffigyrau cysylltiedig.  Yn absenoldeb rhagor o fanylion, cynigodd y dylid newid yr argymhellion er mwyn adlewyrchu eu bod angen cael eu nodi gan y Pwyllgor.  Roedd y Cynghorydd Attridge yn rhannu ei bryderon ac fe eiliodd ei gynnig.

 

O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd y diwygiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r Strategaeth Gyfalaf; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/24 – 2025/26 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 o’r Strategaeth Gyfalaf, ac

 

·         Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).