Mater - cyfarfodydd

Joint Funded Care Packages

Cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 36)

36 Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y wybodaeth ddiweddaraf ar ddyled hirdymor cyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau gofal a ariennir ar y cyd a chymorth i unigolion ag anghenion gofal cymhleth.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad hwn at y fframwaith statudol sydd wedi’i roi ar waith gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi trefniadau i’r Byrddau Iechyd ddarparu Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill. Manylodd yr Uwch Reolwr ar nifer o heriau allweddol megis y gwahanol gymorth sydd ei angen ar oedolion a phlant, a'r nifer uchel o becynnau Gofal Iechyd Parhaus a ddarperir yn Sir y Fflint a Wrecsam. Mae perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr yn y sector iechyd wedi helpu i ddatrys rhai materion sy’n bod ers amser maith yn y broses Gofal Iechyd Parhaus. Mae penodi Swyddog Cynllunio a Datblygu Gofal Iechyd Parhaus o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi galluogi’r tîm i wella prosesau mewnol ac ymgysylltu â BIPBC.

 

Mewn perthynas â lefelau dyled a adroddwyd ar 5 Medi 2022, roedd
ad-daliad o £46,333 wedi’i wneud ers hynny gan BIPBC ar gyfer anfonebau heb eu talu o dair blynedd a throsodd, gyda gwaith yn parhau i glirio’r anfonebau hanesyddol sy’n weddill. Dros y chwe mis diwethaf, roedd gwaith gan y tîm i ganolbwyntio ar ddatrys anfonebau newydd yn brydlon wedi helpu i leihau lefelau dyled tymor byr yn sylweddol. Ers mis Medi 2022, roedd anfonebau gwerth cyfanswm o £260,248 ar fin cael eu prosesu, sy’n ymwneud yn bennaf ag un achos penodol yn ymwneud â phlentyn.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o gefndir yr adroddiad cychwynnol a rannwyd ym mis Rhagfyr 2021. Roedd ei bryderon yn ymwneud nid yn unig â cholli incwm disgwyliedig ond hefyd am yr amser a gymerwyd i ddatrys anfonebau dadleuol a oedd yn fater llif arian i'r Cyngor.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr bod y gwelliannau diweddar a roddwyd ar waith wedi arwain at ddealltwriaeth glir o’r prosesau ar y ddwy ochr.


Rhoddodd Paul Carter sicrwydd bod BIPBC yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr y Cyngor i brosesu anfonebau cyfredol mewn modd amserol a bod ymgysylltu rheolaidd â swyddogion ar bob lefel i egluro’r rhesymau dros dalu anfonebau hanesyddol nad oedd wedi bod yn destun yr un broses drylwyr yn rhannol neu beidio â’u talu. Er ei fod yn obeithiol y byddai tua £250,000 o anfonebau oedd fod i gael eu hystyried gan banel BIPBC yn cael eu cymeradwyo i leihau’r ddyled hanesyddol ymhellach, roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i ganfod gwybodaeth ategol ar dri achos sy’n weddill gwerth cyfanswm o £350,000 a thros £400,000 o anfonebau yn ymwneud â phlant er mwyn i BIPBC allu cymeradwyo’r taliadau hynny. Yn benodol, ni chanfuwyd gwybodaeth ar ddau achos cost uchel hyd yma.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch goblygiadau ariannol y ddyled sydd heb ei thalu, o ystyried y diffyg amserlen a rhagolwg cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24. Dywedodd y dylai gweithdrefnau sydd i'w trafod mewn gweithdy wedi'u hwyluso eisoes  ...  view the full Cofnodion text for item 36