Mater - cyfarfodydd
Social Services Director's Annual Report
Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)
16 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 98 KB
Pwrpas: |
Taro golwg dros yr adroddiad ac adrodd yn ôl ar y cynnwys drafft.
|
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Services Director's Annual Report, eitem 16 PDF 10 MB
- Gweddarllediad ar gyfer ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a rhoddodd wybodaeth gefndir a chyd-destun. Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at wasanaeth Mockingbird, a gwasanaeth awtistiaeth integredig rhanbarthol. Gwahoddodd y Prif Swyddog y Swyddog Cynllunio a Datblygu – Tîm Partneriaeth, Datblygu a Pherfformiad i roi trosolwg o Adroddiad Blynyddol drafft Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cymorth ar gael i ddarparu gwybodaeth a chymorth i unigolion a oedd yn dymuno bod yn Ofalwr-Micro. Eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod y Swyddog Cynllunio a Datblygu ar gyfer Gofal-Micro yn datblygu rôl Gofal-Micro ymhellach gyda'r dyhead ei fod yn dod yn wasanaeth wedi'i gomisiynu yn ogystal ag un a ddarperir trwy daliad uniongyrchol. Soniodd hefyd am ffiniau deddfwriaethol a’u heffaith ar y model busnes, monitro Gofalwyr-Micro yn y dyfodol a datblygiadau parhaus i gefnogi gofalwyr-micro sydd wedi’u sefydlu.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22, sy'n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf.