Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report 2021/22

Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 45)

45 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 350 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys drafft 2020/21 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, yr oedd yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2021 pryd yr ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan fodloni’r Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.

 

Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 18 Hydref i'w gymeradwyo'n derfynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn argymell Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Cyngor ar 18 Hydref i'w gymeradwyo'n derfynol.