Mater - cyfarfodydd
Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 4)
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 44)
44 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 4) PDF 326 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 4 ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 4), eitem 44 PDF 89 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 4), eitem 44 PDF 82 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 4), eitem 44 PDF 169 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 4)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2022), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniad a ragwelir.
Bu cynnydd net o £29.590 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £15.864 miliwn yn y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £17.621 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai (£1.757 miliwn));
· Cyflwyniad i Arian a Ddygwyd Ymlaen o 2021/22 o £13.726 miliwn (Cronfa’r Cyngor £13.726 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £0.000 miliwn)
Y gwariant gwirioneddol oedd £14.290 miliwn.
Roedd derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn chwarter cyntaf 2022/23 yn gyfanswm o £1.058 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 4 o £3.126 miliwn (o warged sefyllfa ariannu agoriadol o £2.068 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a
(c) Cymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.