Mater - cyfarfodydd

Welsh Government Consultation - Council Tax Reform

Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 46)

46 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Diwygio Treth y Cyngor pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymatebion i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 1 Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddiwygio Treth y Cyngor. 

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:

 

·         Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor

·         Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth a oedd yn fwy blaengar

·         Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau

·         Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion diwygio i gwestiynau penodol a ofynnodd  Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Awdurdodi'r Rheolwr Refeniw a Chaffael i ymateb i'r ymgynghoriad ar gynigion Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.