Mater - cyfarfodydd
Welsh Government Consultation - Council Tax Reform
Cyfarfod: 26/09/2022 - Cabinet (eitem 46)
46 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Diwygio Treth y Cyngor PDF 99 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth ac ymatebion i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Treth y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Welsh Government Consultation - Council Tax Reform, eitem 46 PDF 76 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Diwygio Treth y Cyngor
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 1 Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddiwygio Treth y Cyngor.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:
· Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor
· Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth a oedd yn fwy blaengar
· Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau
· Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion diwygio i gwestiynau penodol a ofynnodd Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Awdurdodi'r Rheolwr Refeniw a Chaffael i ymateb i'r ymgynghoriad ar gynigion Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.