Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report 2021/22 and Treasury Management Update Q1 2022/23

Cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 21)

21 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2022/23 pdf icon PDF 120 KB

1.         Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.

 

2.         Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor at ddiwedd Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys 2021/22 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.  Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2022/23 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd.  Yn unol a’r broses arferol, byddai sesiwn hyfforddi ar gyfer yr holl aelodau’n cael ei threfnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022 cyn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24

 

Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys effaith materion economaidd yn ystod y cyfnod.  Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2022/23 yn rhoi’r wybodaeth diweddaraf am fuddsoddiadau ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau am doriadau i’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

 

Croesawodd Allan Rainford yr ymdriniaeth o ran lleihau risg ar fuddsoddiadau a chafwyd gwybodaeth ar y strategaeth fuddsoddi a oedd yn blaenoriaethu hylifedd a diogelwch wrth arallgyfeirio a lledaenu risg, ar y cyd â chyngor gan Arlingclose.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod Cynghorau eraill ar draws Cymru yn ymdrin â rheoli’r trysorlys mewn ffordd debyg gan ganolbwyntio ar fenthyca tymor byr.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Attridge ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nodi Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol drafft 2020/21, heb unrhyw faterion i’w dwyn i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a

 

(b)        Nodi diweddariad chwarter cyntaf Rheoli’r Trysorlys 2022/23.