Mater - cyfarfodydd

Welsh Government’s Consultation on Proposals for New Bus Legislation

Cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 14)

14 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Bws Newydd pdf icon PDF 121 KB

Pwpras:        Cynghori Craffu ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bws newydd ac ymateb arfaethedig Sir y Fflint a gofyn am sylwadau gan y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cludiant fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn ceisio adborth ar y cynigion Papur Gwyn a fyddai’n newid y ffordd y byddai gwasanaethau bws yn cael eu llywodraethu a’u gweithredu yng Nghymru.  Rhoddwyd trosolwg manwl o weledigaeth LlC a’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd, ynghyd â gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol (Deddf Cludiant 1985 a 2000) a chyfrifoldebau’r Cyngor.  Darparwyd gwybodaeth gefndir ar y darparwyr bysiau masnachol gyda manylion yr adolygiad o’r rhwydwaith craidd a oedd yn cynnwys canolfannau, prif drefi a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus a gefnogwyd gan y Cyngor gyda llai o wasanaethau yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig. Darparodd wybodaeth hefyd am effeithiau dadreoleiddio dros y blynyddoedd o ran gwasanaethau a’r cymorth ariannol a ddarparwyd gan y Cyngor a Grant Cefnogi Rhwydwaith LlC.  Roedd y pandemig wedi amlygu natur fregus y gwasanaethau a’r effeithiau oherwydd y gostyngiad yn nifer y teithwyr. 

 

            Yna, fe adroddodd y Rheolwr Cludiant ar fentrau LlC i alluogi rheoleiddio gwasanaethau bws ar draws Cymru, a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Roedd yn manylu ar y rhestr o fesurau a sut y byddai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith gyda LlC, awdurdodau lleol a darparwyr, ac yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac allyriadau.  Roedd Awdurdodau Lleol o’r farn bod angen gwneud gwelliannau ond roedd ganddynt bryderon mewn perthynas â lefel y cyllid ar gael i gefnogi hyn, yn ogystal â darpariaethau ar gyfer gwasanaethau gwledig.  Gan gyfeirio at Holiadur LlC, darparodd wybodaeth fanwl am y risgiau a’r goblygiadau ariannol allweddol ac fe gadarnhaodd y byddai sylwadau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu hadrodd yn ôl.  

 

            Cytunodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi gyda’r pryderon a godwyd a soniodd am ei ddeiseb ar-lein i LlC, “Bysiau i Bobl Nid Er Elw”, gyda’r cyn-Gynghorydd Carolyn Thomas.  Roedd yn credu bod y fenter hon yn ceisio dad-wneud niwed dadreoleiddo gan ganolbwyntio ar ecwiti cymdeithasol a lleihau allyriadau carbon, ond bod yna hefyd gwestiynau heb eu hateb mewn perthynas â chymunedau gwledig.  Roedd yn deall yr effeithiau ar gwmnïau bysiau bach (busnesau bach a chanolig) yn enwedig mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, ac y gallai LlC ymyrryd a chymryd cyllid o un cynllun er mwyn ei roi i un arall heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdod lleol.  Gallai’r awdurdod fod yn gyfrannwr uchel gydag adnoddau yn mynd i fannau eraill a holodd a fyddai’r holl lwybrau yn ein cymunedau gwledig yn cael eu blaenoriaethu pan fyddai’n weithredol.

           

            Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers sawl pryder yngl?n â darpariaeth y rhwydwaith craidd o fysiau a gwasanaethau trawsffiniol a’r angen i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cadw eu gwasanaethau.  Roedd yr amwysedd ynghylch cyfuno adnoddau hefyd yn bryderus.  Gan gyfeirio at y gwasanaethau trên, roedd yn credu y gallai’r rheilffordd Wrecsam - Bidston, yn cynnwys Parcffordd Glannau Dyfrdwy, fod yn ganolbwynt defnyddiol ond roedd y materion yn Castle Cement yn achosi problemau.  

 

            Mewn ymateb i bryderon yngl?n â rheilffordd Wrecsam - Bidston, parcffordd Glannau Dyfrdwy a Castle Cement, adroddodd  ...  view the full Cofnodion text for item 14