Mater - cyfarfodydd

Budget 2023/24 Medium Term Financial Strategy (MTFS)

Cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 10)

10 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer 2023/24 a’r strategaeth o ran cyllido’r gofynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth ac Yswiriant) adroddiad ar y cam cyntaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gofyniad y gyllideb ar gyfer 2023/24.  Mae’r adroddiad yn nodi’r rhagolygon diwygiedig cyn i bwysau o ran cost a chynigion effeithlonrwydd gael eu hadolygu gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gweithdai Aelodau yn ystod yr Hydref.

 

Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £16.503 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2023/24, a oedd yn eithrio effaith canlyniad yr ymarfer modelu tâl i’w gyflawni yn 2022/23.  Er bod ffigyrau ariannu dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 wedi cael eu darparu fel rhan o Setliad Llywodraeth Leol 2022/23, roedd y rhain ar lefel llawer is na’r ddwy flynedd flaenorol a byddai’n cynyddu’r symiau i’w diwallu gan ffynonellau eraill.  Roedd heriau sylweddol yn y rhagolygon economaidd, gyda’r amcangyfrifon chwyddiant ar ynni a thanwydd wedi’u hamlygu fel risgiau allweddol sy’n debygol o gynyddu’r rhagolwg.  Roedd pwysau eraill o ran cost mewn perthynas â newid mewn galw gwasanaeth, yn bennaf o fewn Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd risg pellach yn parhau o ran canlyniad y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2022/23 lle byddai unrhyw gynnydd uwchben yr ymgodiad o 3.5% a gyllidebwyd, yn golygu defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn, a byddai hefyd yn ychwanegu pwysau ychwanegol i’r rhagolwg ar gyfer 2023/24.

 

Cafodd y pwysau o ran cost eu categoreiddio yn adran 1.04 yr adroddiad a hysbyswyd yr Aelodau fod y ffigyrau yn debygol o newid dros yr Haf wrth i ragor o wybodaeth gael ei dderbyn ac wrth i adolygiadau barhau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn ar gyflwyno’r rhagolwg cyntaf ar gyfer y gofyniad cyllidebol ar gyfer 2023/24.  Dywedodd fod ansefydlogrwydd y sefyllfa economaidd bresennol yn creu fwy o heriau o ran cynllunio ariannol a bod swyddogion yn parhau i weithio drwy’r manylion i fireinio’r rhagolygon.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am y risgiau sylweddol ar effaith y cynnydd mewn chwyddiant ac ynni, lle nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth.  Wrth amlygu’r angen i ystyried effaith y penderfyniadau ar y blynyddoedd i ddod, ailadroddodd egwyddorion craidd o wneud penderfyniadau gan sicrhau fod y Cyngor yn parhau i fodloni ei ddyletswyddau statudol a chynnal ei safonau ansawdd.

 

Fel un o’r prif risgiau, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at yr effeithiau heb ei ariannu posibl o ddyfarniadau cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer athrawon a staff nad ydynt yn athrawon yn 2023/24.  Siaradodd am yr heriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r sir lle'r oedd y Cyngor yn gweithio i adsefydlu ei hun fel darparwr gofal uniongyrchol ac archwilio dewisiadau rhanbarthol.

 

Wrth godi nifer o gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson nad oedd yr holl bwysau yn cynnwys ystod o amrywiadau.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol, wrth i waith barhau, byddai diweddariad ar yr holl amrywiadau yn cael ei rannu yn y gweithdy ym mis Medi.  Wrth ateb cwestiwn o  ...  view the full Cofnodion text for item 10