Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Interim)

Cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 12)

12 2022/23 Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiad ar y sefyllfa monitro cyllideb yn ystod y flwyddyn dros dro 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd hwn yn adroddiad eithrio ar amrywiadau sylweddol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2022/23 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd am y flwyddyn.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio ar y cam hwn gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o tua £0.300 miliwn.  Fel y nodwyd yn yr eitem flaenorol, roedd y £2.066 miliwn oedd yn weddill o’r gronfa wedi’i glustnodi i argyfwng Covid-19, yn ogystal â’r £3.250 miliwn a ddarparwyd ar gyfer y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2022/23, wedi codi’r cyfanswm i £5.316 miliwn.  Roedd yr hawliadau mewn perthynas â Covid ar draws y portffolios yn cael eu hadolygu er mwyn penderfynu cymhwysedd ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny, o ystyried fod Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) wedi dod i ben.  Roedd gwaith yn parhau i adolygu’r cynnydd ar risgiau sy’n codi ac arbedion effeithlonrwydd heb eu cyflawni a all effeithio ar gyllideb 2023/24.  Roedd y trosolwg o’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn cynnwys nifer o bwysau o ran cost mewn Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Stryd a Chludiant gyda’r cynnydd mewn prisiau tanwydd yn codi fel pwysau corfforaethol.  Mae nifer o risgiau agored wedi cael eu canfod ar y cam hwn a byddent yn destun monitro parhaus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y posibilrwydd i LlC ymestyn trefniadau cyllido Covid ac os fyddai’r £3.250 miliwn ychwanegol i gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor yn dal i fod yn angenrheidiol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol, oni bai am y cyllid ychwanegol ar y cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol Covid-19, nid oedd unrhyw fynegiad gan LlC y byddai cyllid blaenorol mewn cysylltiad â Covid yn parhau, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i gasglu ac adolygu hawliadau mewnol.  Pan ofynnwyd am gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor, roedd ansicrwydd ar y cam hwn o ran pa lefel a fyddai’n ofynnol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar drefniadau ariannol ar gyfer Parc Adfer, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) drosolwg cryno o’r model mewn cysylltiad â’r contract a gofynnodd i geisiadau am fanylion penodol gael eu gwneud ar wahân.   Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ibbotson ofyn y cwestiwn drwy’r Hwylusydd gyda’r ymateb i’w rannu gyda’r Pwyllgor llawn.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, talodd y Cynghorydd Paul Johnson deyrnged i broses fonitro cyllideb gadarn a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan y Cadeirydd a geisiodd eglurhad ar yr amrywiant o £0.275 miliwn ar y Gwasanaethau Rheoli ac Adnoddau.  Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i rannu ymateb mwy manwl.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (dros dro) 2022/23, bod  ...  view the full Cofnodion text for item 12