Mater - cyfarfodydd

Recruitment of a Town and Community Council Representative to the Standards Committee

Cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 48)

48 Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Penodi'r ymgeisydd a ffafrir i'r Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod pob Cyngor wedi cael gwahoddiad i enwebu ymgeiswyr.  Enwebwyd chwech ac fe wnaeth pob un baratoi portread ysgrifenedig, a anfonwyd at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned.  Gofynnwyd i’r Cynghorau ddewis eu hymgeisydd oedd yn ddewis 1af. Byddai’r ymgeisydd oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel dewis 1af yn cael ei ddewis. Pe bai hi’n gyfartal, gofynnwyd iddynt hefyd enwebu’r ymgeisydd oedd yn 2il ddewis ganddynt, a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddewis o blith unrhyw ymgeiswyr oedd â’r un nifer o bleidleisiau fel dewis 1af.  Enillodd y Cynghorydd Ian Papworth, Cyngor Cymuned Trelawnyd a Gwaunysgor, fwyafrif clir o bleidleisiau dewis 1af ac 2il ddewis.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diolch i’r ymgeiswyr am eu diddordeb; a

 

(b)       Phenodi’r Cynghorydd Ian Papworth yn gynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau tan yr etholiadau ym mis Mai 2027.