Mater - cyfarfodydd

Placement Commissioning Strategy

Cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 5)

5 Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau (Plant) pdf icon PDF 111 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y Strategaeth Comisiynu Lleoliadau a oedd yn pennu uchelgeisiau’r Cyngor a’i gynlluniau i gefnogi plant oedd yn derbyn gofal yn lleol, gan gynnwys rhoi cefnogaeth i rieni a theuluoedd i ddarparu cartrefi diogel a chariadus yn Sir y Fflint.  Byddai angen gofal maeth a gofal preswyl ar rai plant a phe byddai modd eu cadw yn Sir y Fflint gallant gadw eu ffrindiau, aros yn yr un ysgolion a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd.  Roedd hi hefyd yn haws i swyddogion yr awdurdod gynnal y gefnogaeth ac ennyn ymddiriedaeth os oedd y plant yn aros yn Sir y Fflint, ac arweiniai hynny at well canlyniadau.  Byddai’n rhaid i rai plant, serch hynny, symud o Sir y Fflint er eu diogelwch a’u lles eu hunain.  

 

            Rhoes yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth fanwl am y dull “Mockingbird” o faethu ac eglurodd sut roedd y tair o ganolfannau’n dod â gofalwyr maeth ynghyd mewn clystyrau i gefnogi ei gilydd.  Soniodd am broblemau recriwtio gofalwyr maeth a bod yr awdurdod yn dibynnu ar asiantaethau maethu annibynnol, masnachol.  Roedd yr asiantaethau masnachol hynny’n recriwtio eu gofalwyr maeth eu hunain ac roedd yn rhaid i’r awdurdod brynu’r lleoliadau ganddynt am bris llawer drutach.  Argymhellodd bod yr Aelodau’n ymweld ag Arosfa, cartref preswyl wedi’i reoli gan Action for Children, a oedd yn darparu gofal seibiant i blant ag anableddau, a soniodd am y gefnogaeth a ddarperid yno.  Hon oedd yr unig ganolfan gofal preswyl a ddarperid yn fewnol ac roedd y Cyngor yn dibynnu’n llwyr ar y sector annibynnol.  Soniodd am y lleoliadau yn y sector annibynnol yn Sir y Fflint a oedd wedi gweithio’n dda ac arwain at ganlyniadau cadarnhaol.  Rhoes fraslun o’r rhaglen ar gyfer datblygu cartrefi gofal preswyl, gan gynnwys dau ohonynt oedd ar y gweill yn yr Wyddgrug. 

 

Roedd y Strategaeth yn pennu uchelgais y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf, a oedd yn gyson ag uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud i ffwrdd ag elw ym maes gofal cymdeithasol i blant.  Darparwyd gwybodaeth yngl?n â chyllid, y templed a gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â nifer y gofalwyr maeth a lleoliadau a fyddai’n ofynnol i gyflawni hyn.

               

Holodd y Cynghorydd Gina Maddison pam fod pobl yn dewis asiantaethau annibynnol yn hytrach na’r Cyngor, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yr asiantaethau hynny’n codi mwy o arian ar yr awdurdod ac yn talu mwy i ofalwyr maeth.   Roedd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru’n cydweithio i ddatblygu brand a rhoes wybodaeth fanwl yngl?n â’r gwaith oedd yn mynd yn ei flaen.

 

            Holodd y Cadeirydd yngl?n â gofalwyr a ddewisai ofalu am frodyr a chwiorydd, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y cynigid amryw gymhellion ar gyfer hynny gan fod y Cyngor yn gyflogwr oedd yn ystyriol o faethu, ac esboniwyd y rheiny ynghyd â chynlluniau eraill oedd ar gael i gefnogi brodyr a chwiorydd. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey gwestiwn yngl?n â therfyn oedran ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5