Mater - cyfarfodydd
Terms of Reference
Cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 9)
Pwpras: Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Current Overview & Scrutiny Committee Terms of Reference, eitem 9 PDF 69 KB
- Appendix 2 – Revised Overview & Scrutiny Committee Terms of Reference, eitem 9 PDF 68 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cylch Gorchwyl
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddog wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny. Tynnodd sylw’r Aelodau at y Cylch Gorchwyl presennol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 gyda’r newidiadau a wnaed i’w gweld yn Atodiad 2. Unwaith i’r Cylch Gorchwyl gael ei gymeradwyo, byddai wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 36, yr eitem ar drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gofynnodd oni fyddai hyn yn fwy addas i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd neu wedi’i rannu ar draws dau bortffolio. Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r rheswm am hyn oedd bod y tîm yn cael ei reoli gan ei bortffolio ac wedi’i alinio â’r tîm diogelwch cymunedol. Derbyniodd y pwynt a dywedodd y byddai hyblygrwydd lle’r oedd pynciau yn gorgyffwrdd gyda gwahoddiadau’n cael eu hanfon i bwyllgorau eraill ymuno â’r pwyllgor hwn pan yr oeddent yn cael eu trafod.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2.