Mater - cyfarfodydd

Terms of Reference

Cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 9)

9 Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 87 KB

Pwpras:        Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddog wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny.  Tynnodd sylw’r Aelodau at y Cylch Gorchwyl presennol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 gyda’r newidiadau a wnaed i’w gweld yn Atodiad 2.  Unwaith i’r Cylch Gorchwyl gael ei gymeradwyo, byddai wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at  dudalen 36, yr eitem ar  drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gofynnodd oni fyddai hyn yn fwy addas i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd neu wedi’i rannu ar draws dau bortffolio.  Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r rheswm am hyn oedd bod y tîm yn cael ei reoli gan ei bortffolio ac wedi’i alinio â’r tîm diogelwch cymunedol.  Derbyniodd y pwynt a dywedodd y byddai hyblygrwydd lle’r oedd pynciau yn gorgyffwrdd gyda gwahoddiadau’n cael eu hanfon i bwyllgorau eraill ymuno â’r pwyllgor hwn pan yr oeddent yn cael eu trafod.

 

            Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2.