Mater - cyfarfodydd
Political Balance
Cyfarfod: 26/07/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 23)
23 Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 75 KB
Pwrpas: Diweddaru'r Cyfrifiadau Cydbwysedd Gwleidyddol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y cyfrifiad diwygiedig o gydbwysedd gwleidyddol, fel y cytunwyd yn y Cyfarfod Blynyddol, yn ymgorffori’r wybodaeth ddiweddar am gr?p gwleidyddol newydd. Cytunwyd ar y dyraniadau arfaethedig yn y cyfrifiad gan arweinwyr grwpiau, a byddai’n bodloni gofynion cydbwysedd gwleidyddol, gan ddarparu 135 sedd i Aelodau ar draws yr holl bwyllgorau yn seiliedig ar aelodaeth bresennol y grwpiau.
Cafodd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys manylion dyraniadau seddi arfaethedig ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn yn unfrydol.
PENDERFYNWYD:
Cytuno ar y dyraniad cydbwysedd gwleidyddol oedd ynghlwm â’r adroddiad.