Mater - cyfarfodydd

Recycling Bring Sites

Cyfarfod: 05/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 15)

15 Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer Ailgylchu pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I ymgynghori gyda Chraffu ar gael gwared ar safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybodaeth fanwl am bwrpas y safleoedd, y cyfraddau casglu a gyflawnwyd a’u lleoliadau ar draws y sir.  Ers eu sefydlu, roedd y gwasanaethau casglu ailgylchu o ymyl y palmant wedi cael eu cyflwyno ac roedd yna hefyd 5 o safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref i drigolion eu defnyddio.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y safleoedd hyn yn cefnogi perfformiad ailgylchu’r cyngor, ond eu bod yn safleoedd heb staff a heb eu rheoleiddio a’u bod yn aml yn profi achosion o dipio anghyfreithlon oherwydd bod y banciau hyn ar gyfer gwydr a thecstilau yn unig.  Roedd llawer o’r safleoedd hyn wedi’u lleoli mewn meysydd parcio cyhoeddus a meysydd parcio tafarndai, a oedd yn galluogi busnesau, megis y diwydiant lletygarwch, i gael gwared ar eu gwastraff, ac nid hynny oedd eu bwriad.   Yna, roedd yn rhaid i Dîm Glanhau Ardal y Cyngor glirio’r gwastraff tipio anghyfreithlon, a oedd yn cael ei waredu fel gwastraff sachau duon, ac roedd eu costau yn awr yn cynyddu.  Ni allai’r Cyngor dalu’r costau gyda’r gwydr a gasglwyd.  Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn oherwydd bod sawl safle yn darparu’r gwasanaethau ar y cyd â’r casgliadau wythnosol o ymyl y palmant i’r trigolion hyn eu defnyddio.  O ran tecstilau, gellid mynd â’r rhain i safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu fe allai trigolion ddefnyddio’r bagiau elusen yr oedd aelwydydd yn eu cael drwy eu blwch llythyrau neu ddefnyddio tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.  Roedd yna hefyd gais gyda LlC ar hyn o bryd i dreialu gwasanaeth casglu o garreg y drws ar gyfer tecstilau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers pam yr oedd trigolion yn mynd â gwydr i safle dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu pan yr oedd yn cael ei gasglu o ymyl y palmant ac roedd yn amlwg pwy oedd yn defnyddio’r safleoedd hyn.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio bod y safleoedd hyn heb staff ac felly nid oedd yn glir os oedd hwn yn wastraff gan fusnesau neu’n eitemau cartref gan drigolion.   Nid oedd unrhyw wybodaeth fanwl a theimlwyd bod y gwastraff yn dod gan fusnesau yn bennaf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Richard Lloyd ei fod wedi gweld achosion o dipio anghyfreithlon yn ei safleoedd lleol ac os oedd cost gynyddol i gael gwared ar hyn, yna roedd o blaid cael gwared arnynt, yn enwedig gan fod trigolion yn gallu defnyddio’r casgliadau ymyl palmant. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am decstilau gan y Cynghorydd Mike Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid parhau i gael gwared ar decstilau yn y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref ond byddai argymhellion hefyd yn cael eu gwneud i drigolion i ddefnyddio elusennau lleol yn eu hardal hefyd.  Byddai pecyn gwybodaeth cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i drigolion os bydd y safleoedd hyn yn cael eu gwaredu.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dan Rose os oedd astudiaeth wedi cael ei chynnal ar gyfer yr ardaloedd hynny nad oeddent mewn meysydd parcio tafarndai i weld os oedd angen gwirioneddol am  ...  view the full Cofnodion text for item 15