Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 8)

8 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad i’w gymeradwyo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am farn yr aelodau ynghylch yr eitemau sydd eisoes wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Ychwanegodd y byddai angen ystyried yr Adroddiad Amseriad Cyfarfodydd a’r Adroddiad Strategaeth Gyhoeddus ac y byddai cyfle i’r Aelodau ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan ei fod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/ newid yn ôl yr angen; a 

 

(b)     Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.