Mater - cyfarfodydd
Review of the Terms of Reference and Introduction to the Work of the Committee
Cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 5)
5 Adolygu Cylch Gorchwyl a Chyflwyniad i Waith y Pwyllgor PDF 75 KB
Pwrpas: Egluro rôl a gwaith y Pwyllgor i Aelodau newydd o’r Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Review of the Terms of Reference and Introduction to the Work of the Committee, eitem 5 PDF 183 KB
- Enc. 2 for Review of the Terms of Reference and Introduction to the Work of the Committee, eitem 5 PDF 51 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygu Cylch Gorchwyl a Chyflwyniad i Waith y Pwyllgor
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir ynghylch sefydlu Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; sef Pwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn wreiddiol. Y Pwyllgor oedd yn gyfrifol am warchod y Cyfansoddiad, gan ddrafftio a fetio newidiadau i’r Cyfansoddiad ac ystyried yr Adroddiad Trosolwg a Chraffu Blynyddol a newidiadau a wneir gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a Phwyllgorau eraill cyn y Cyngor Sir. Mae pwyllgorau eraill, megis y Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn adolygu rhannau o’r Cyfansoddiad yn rheolaidd ac yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor hwn eu craffu, cyn iddynt gael eu mabwysiadu gan y Cyngor Llawn.
Dechreuodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cyflwyniad a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol:
Ø Diben y sesiwn
Ø Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Ø Aelodaeth Pwyllgorau
Ø Swyddogaethau Pwyllgorau 1
· Adolygiadau Hyfforddiant Datblygu Aelodau
· Ystyried yr argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
· Materion yn ymwneud â chefnogaeth Aelodau
· Cydlynu’r rhaglenni gwaith ar gyfer y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Ø Swyddogaethau Pwyllgorau 2
· Dynodi’r swydd i fod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd statudol
· Adolygiadau ac adroddiadau ar gyflawni “Swyddogaethau Gwasanaethau Democrataidd”
· Gwneud penderfyniadau ar hawl aelod i absenoldeb teuluol dan y rheoliadau perthnasol
Ø Gwaith y Pwyllgor
Ø Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor hwn wedi’i atodi i’r rhaglen er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD:
Nodi gwaith y Pwyllgor.