Mater - cyfarfodydd

Play Sufficiency Assessment 2022

Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 21)

21 Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad o’r adroddiad i Lywodraeth Cymru mewn cydymffurfiad â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem gan ddweud bod Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl blant a phobl ifanc sy’n byw yn y sir fynediad at amser, lle a chaniatâd i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd, fyddai o fudd i’w teuluoedd a’u cymunedau. Roedd gan blant yn Sir y Fflint ‘hawl i chwarae’ fel sydd wedi’i ymgorffori yn Erthygl 31 yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

Roedd y Cyngor yn cydnabod bod chwarae yn ganolog i fwynhad plant a phobl ifanc o fywyd ac yn hanfodol i’w lles corfforol ac emosiynola’u datblygiad iach. Cydnabuwyd y gallai rhai agweddau o gymdeithas fodern gyfyngu ar amser, lle a chaniatâd plant i chwarae. Mae’rCyngor wedi ymrwymo i barhau i greu partneriaethau effeithiol ialluogi plant i chwarae.

 

Y nod oedd helpu i greu amgylcheddau chwarae cyfoethog ble gallai plant chwarae’n rhydd ac annog ein cymunedau i fod mor gyfeillgar â phosibl at chwarae i gefnogi chwarae plant. Drwy greu mwy o gyfleoedd chwarae yn ein cymunedau lleol, byddai profiadau plant a phobl ifanc o dyfu i fyny yn Sir y Fflint yn cael eu gwella.

 

Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o’r broses Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol, datblygiad Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol a’r Asesiad drafft ar gyfer 22-23 cyn cyflwyno’r asesiad cyflawn i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol 2022 drafft a’r Cynllun Gweithredu 2022/23 drafft cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru; a

 

(b)       Cefnogi datblygiad parhaus Gr?p Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol strategol i Sir y Fflint, i ddarparu fforwm aml-asiantaeth i fonitro Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol 2022/23.